Owen – Cristion yn wir?

Mae Owen yn cydnabod yn barod nad oedd fel crwtyn ifanc yn sicr beth oedd Cristion. Ond wedi tyfu’n ddyn daeth yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Beth, felly, yn y diwedd, a benderfynodd y mater yn ei feddwl? (Click here for English)

‘Roeddwn yn ymwybodol o Dduw o’r dechreuad cyntaf, a mod i’n gyfrifol iddo, ond nid oedd hyn yn ddigon i’m gwneud yn Gristion. Ces fy nghodi i fynd i’r capel, fel y mwyafrif o’m ffrindiau, ac fe ddaeth yn arfer imi gael fy newis i gymryd darlleniadau o’r Beibl, ac i adrodd pennillion yn gyhoeddus. Er hynny, roedd ansicrwydd yn parhau ynglyn a’r cwestwn mawr – a oeddwn yn Gristion? Clywais lawer yn dweud eu bod “wedi rhoi eu calonnau i’r Arglwydd” mewn rhyw gyfarfod arbennig, neu eu bod wedi cael eu “hachub”, ond yn fy nghefndir i nid oedd syniadau fel hyn yn dderbyniol.

‘Yn fy arddegau dechreuais ddarllen y Beibl ar fy mhen fy hun. Des i ddeall bod bobl yn gallu honni rhywbeth ynglyn a bod yn Gristion nad oedd yn ymateb yn llwyr a beth a ddywed y Beibl. Ar yr un pryd roedd yn arferiad yn ein capel ni i bobl ifanc tua pymtheng mlwydd gael eu bedyddio, ac wrth hynny, yn eu tyb nhw, dod yn Gristion. Yn raddol, des i weld bod dod yn Gristion yn golygu credu bod Iesu Grist wedi marw yn ein lle, a’n dyletswydd ni oedd ei ganlyn a bod yn ufudd iddo. Nid oedd hawlio profiadau anhygoel na mynd trwy unrhyw ddefod yn profi dim.

‘Fel myfyriwr ifanc yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth, cofiaf ddarllen mewn cylchgrawn Cristnogol erthygl a oedd yn gymorth neilltuol imi. Meddai nad oedd yn bwysig pryd y daethoch yn Gristion; yr hyn oedd yn bwysig oedd eich bod wedi dod yn Gristion. Rhoddodd hynny sicrwydd mawr imi am fy mod yn gallu gweld arwyddion perthynas a Duw yn fy mywyd. Nid oeddwn yn berffaith o bell ffordd, ond roeddwn yn gwybod bod angen boddloni Duw yn fwy pwysig na dim.

‘Roeddwn yn dysgu nid yn unig beth oedd Cristion ond sut y dylai Cristion byw. Mae’r ddau yn bwysig, a mae’r ateb i’w gael yn y Beibl, Gair Duw. Gall bobl fod yn grefyddol iawn ond nid yw hynny yn golygu eu bod yn Gristnogion.

‘Mae nifer o engreifftiau o’r gwahaniaeth a wneir ym mywyd Cristion. Rhaid i bawb farw, a dwy flynedd yn ol ces i drawiad (stroke), rhybydd o ansicrwydd bywyd. Mor werthfawr yw gorffwys yn y wybodaeth fy mod yn nwylaw Duw’r Beibl, a mae’r nefoedd yw diwedd y daith.’


Owen – Am I really a Christian?

Owen readily confesses that as a young lad he was confused about what a Christian was. But in later life he became a minister of a church. So what was it that finally settled Owen’s mind?

‘There was always a recurring thought as I was growing up. Am I a Christian? My parents took me to church and I got involved, doing things like readings and recitals. I thought I was a Christian but I was confused as many people in the different churches we went to said different things. Some said how they “gave their heart to the Lord” and this experience was the point in their life they became a Christian.

‘But this experience hadn’t happened to me. During my teenage years I read the Bible for myself. I began to realise that people can often say something about being a Christian that the Bible doesn’t. It’s a bit like people saying that you become a Christian when you get baptised. I began to realise that the Bible says these types of experiences or the things we do and say don’t make you a Christian – being a Christian was about believing in Jesus Christ and wanting to follow and obey him.

‘In my twenties, when I was training to be a minister, I read an article in a Christian magazine which I found tremendously helpful. I remember it said, “it doesn’t matter when you became a Christian; it matters that you are a Christian.” It reassured me as I could see evidence in my life that I was a Christian. I wasn’t perfect, by any means, but I knew God was challenging me to live a life that pleased him.

‘You see I was learning not only what a Christian is, but also what the Christian life looks like – both matter and the answers can be found in the Bible. People can be very religious but that doesn’t make them genuine Christians. I suppose people can easily read the Bible but not be affected by it.

‘Let me give a personal example of the difference being a Christian makes. I know we all have to die sometime and last year I had a stroke. It is such a great comfort to know I’m in the hands of the God of the Bible and that I’m heading to heaven.’